Bu Sajid Javid yn cyfarfod â gweithwyr dur Tata ym Mhort Talbot yr wythnos ddiwethaf wrth i'r argyfwng barhau (llun: Ben Birchall/PA)
Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud ei fod wedi cael “cyfarfod adeiladol” yn Stryd Downing heddiw gyda David Cameron wrth drafod dyfodol y diwydiant dur.

Daeth y trafodaethau wrth i ansicrwydd barhau ynglŷn â dyfodol gweithfeydd Tata ym Mhort Talbot, gyda’r cwmni eisoes wedi dweud eu bod yn bwriadu gwerthu eu safleoedd.

“Rydym yn gwybod bod diddordeb gan ddarpar brynwyr,” meddai Carwyn Jones. “Ond mae llawer o waith i’w wneud o hyd.”

Eisoes, mae adroddiadau bod pennaeth y grŵp Liberty, Sanjeev Gupta, yn ystyried y safleoedd ond mae’n pwysleisio ei bod yn “ddyddiau cynnar”.

‘Perchnogaeth gyhoeddus’

Dywedodd Carwyn Jones eu bod wedi trafod pensiynau, costau a thariffau ynni yn ystod y cyfarfod – a hynny fel rhan o’r cynllun tri chynnig a gyhoeddodd gerbron ACau ym Mae Caerdydd ddoe wrth iddyn nhw ail-ymgynnull.

Yn ei ddatganiad ddoe, fe ddywedodd ei fod am weld Llywodraeth Prydain yn sicrhau perchnogaeth gyhoeddus o’r gweithfeydd dur tra bo’r broses o ganfod prynwr yn parhau.

Ychwanegodd y byddai Llywodraeth Cymru’n barod i gyfrannu £60miliwn tuag at sicrhau prynwr ar gyfer y gweithfeydd dur yng Nghymru.

Cyfarfod ym Mumbai

Fe fydd Ysgrifennydd Busnes Llywodraeth Prydain, Sajid Javid, yn teithio i India heno i gwrdd â Chadeirydd grŵp Tata, Cyrus Mistry, ym Mumbai.

“Yr hyn dw i am ei gael allan o’r cyfarfod yw cytundeb terfynol ar y broses werthu,” meddai.

Roedd Ysgrifennydd Cymru Alun Cairns a’r Canghellor George Osborne hefyd yn rhan o’r trafodaethau.

Dywedodd Alun Cairns fod gan Lywodraeth Prydain “berthynas weithiol dda gyda Llywodraeth Cymru ac mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i weithio gyda’n gilydd i sicrhau dyfodol cadarn ar gyfer y gweithfeydd”.

‘Swyddi a Phensiynau’

Yn y cyfamser mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, wedi dweud fod yn rhaid i David Cameron “fod yn barod i gymryd cyfran gyhoeddus yn y diwydiant dur er mwyn amddiffyn swyddi a phensiynau’r gweithwyr”.

Cyhuddodd y llywodraeth o fod ag “alergedd ideolegol” at berchnogaeth gyhoeddus gan ddweud fod y Prif Weinidog wedi gwrthod alw’r Senedd nôl er gwaetha’ deiseb wedi’i harwyddo gan fwy na 150,000 o bobol yn gofyn am hynny.

“Mae’n rhaid i ni amddiffyn y diwydiant, mae’n rhaid i ni amddiffyn swyddi a phensiynau, ac mae’n rhaid i ni fod yn barod i gymryd cyfran gyhoeddus er mwyn diogelu hynny,” meddai Jeremy Corbyn.