Tulisa Contostavlos
Mae’r gantores Tulisa Contostavlos wedi’i chyhuddo o yfed a gyrru yn dilyn honiadau bod ei Ferrari wedi bod mewn gwrthdrawiad.

Mae Contostavlos, 27 oed, hefyd wedi’i chyhuddo o yrru’n beryglus yn dilyn digwyddiad tu allan i orsaf trenau tanddaearol Southgate yng ngogledd Llundain ar 10 Medi y llynedd.

Ar y pryd, roedd adroddiadau bod y gantores wedi cael ei harestio yn dilyn gwrthdrawiad honedig rhwng Ferrari a Saab toc cyn hanner nos.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Heddlu Metropolitan bod Tulisa Contostavlos o Enfield wedi’i chyhuddo ar ddydd Llun, 7 Mawrth.

“Mae dynes wedi’i chyhuddo o droseddau gyrru yn dilyn gwrthdrawiad ar 10 Medi 2015 y tu allan i orsaf Southgate.

“Mae hi wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth a bydd yn mynd gerbron Llys Ynadon Highbury Corner ar 4 Ebrill.”