Mae’r Llywodraeth yn rhybuddio teithwyr sy’n mynd dramor dros wyliau’r Pasg i fod yn barod i wynebu oedi.

Daw hyn ar ôl i fesurau diogelwch ychwanegol gael eu rhoi ar waith mewn meysydd awyr, porthladdoedd a gorsafoedd trenau yn dilyn yr ymosodiadau ym Mrwsel ddydd Mawrth.

Dywedodd llefarydd Llywodraeth Prydain: “Fe all teithwyr brofi oedi dros benwythnos y Pasg ac fe ddylen nhw ofyn am gyngor eu cwmnïau teithio cyn cychwyn ar eu taith.”

Fe ddywedodd sefydliad teithio Abta y bydd dwy filiwn o Brydeinwyr yn mynd dramor dros y pedwar diwrnod nesaf ac maen nhw yn apelio arnyn nhw i ganiatáu digon o amser oherwydd y mesurau diogelwch ychwanegol.

Mae teithwyr ar wasanaeth trên Eurostar rhwng Paris a Brwsel wedi eu rhybuddio i ddod i’r orsaf awr yn gynt oherwydd mesurau diogelwch ychwanegol.