John David Hulme (Llun Heddlu'r Gogledd)
Mae dau ddyn o Gaernarfon wedi cael eu dedfrydu i garchar heddiw am hawlio £800,000 o arian y trethdalwr drwy dwyll tra’n rhedeg cwmni bysiau Padarn yn Llanberis.

Bydd cyn-gyfarwyddwr y cwmni, John David Hulme, 55, yn gorfod treulio chwe blynedd dan glo tra bydd un arall, Darren Price yn y carchar am ddwy flynedd a thri mis.

Mae Heddlu’r Gogledd wedi croesawu’r dyfarniad yn Llys y Goron Caernarfon, gan ddweud bod yr ymchwiliad wedi bod yn un “cymhleth”.

Fe wnaeth 84 o bobol golli eu gwaith ar ôl i’r cwmni, oedd yn rhedeg gwasanaethau ar draws Gwynedd ac Ynys Môn, ddod i ben ar 30 Mai’r llynedd

Wrth groesawu’r dyfarniad, dywedodd Uwch Swyddog Ymchwilio Gogledd Cymru, Iestyn Davies, ei fod yn “diolch i lygad-dystion a helpodd â’r ymchwiliad a diolch i’r Swyddogion Ymchwilio a Thîm Erlyn y CPS (Gwasanaeth Erlyn y Goron)”.