Mae’r ymgyrch dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn parhau i fod ar y blaen yn ôl y pôl piniwn diweddaraf, er bod y bwlch rhwng y ddwy ochr yn dechrau cau.
Yn ôl pôl Survation, mae gan yr ymgyrch i aros yn Ewrop 46% o gefnogaeth y cyhoedd, sydd i lawr dau bwynt ers mis diwethaf.
Mae’n 11 pwynt ar y blaen, gyda’r ymgyrch i adael i fyny dau bwynt ar 35%.
Cafodd y pôl ei wneud drwy holi barn 1,006 o oedolion ledled gwledydd Prydain dros y ffôn rhwng 17 a 19 Mawrth.