Adam Johnson
Mae Adam Johnson wedi ei ddedfrydu i chwe blynedd o garchar heddiw am gael rhyw gyda merch dan oed.
Dywedodd y Barnwr Jonathan Rose wrtho: “Fe wnaethoch chi benderfyniad bwriadol i gymryd rhan mewn gweithredoedd rhywiol gyda’r ferch ifanc. Ac heb os, roeddech yn grediniol a na fyddech yn cael eich dal.”
Ni ddangosodd Adam Johnson unrhyw emosiwn wrth gael ei ddedfrydu.
Fe glywodd Llys y Goron Bradford am y “niwed seicolegol difrifol” achosodd y pêl-droediwr rhynglwadol o Loegr i’r ferch 15 oed.
Dywedodd yr Erlynydd Kate Blackwell QC wrth Lys y Goron Bradford fod gwahaniaeth oedran sylweddol rhwng y diffynnydd a’r dioddefwr.
“Yn ystod y troseddau hyn, roedd y dioddefwr newydd gael ei phen-blwydd yn bymtheg oed ers mis, gyda’r diffynnydd yn 27 oed,” meddai’r erlynydd.
“Roedd o bron ddwbwl ei hoed hi, a 13 o flynyddoedd yn hŷn.”
Ychwanegodd: “Yr hyn sydd fwyaf amlwg ym meddwl y Llys yw’r niwed seicolegol difrifol sydd wedi ei achosi i’r ferch.”
Fe ddarllenodd Kate Blackwell ddatganiad y ferch i’r llys, a ddywedodd: “Mae’r holl brofiad wedi bod yn llethol. O ganlyniad i’r broses, rwyf wedi cael amser anodd iawn.”
Roedd y ffaith fod Adam Johnson yn mynnu ei fod yn ddieuog, “wedi fy nychryn a gwneud i mi deimlo’n unig iawn. Rwyf wedi profi llawer o lefydd tywyll dros y 12 mis, ac ar brydiau roeddwn eisiau cau’r holl fyd allan.”
Carchar
Roedd Adam Johnson wedi ei rybuddio ei fod yn wynebu “dedfryd hir o garchar” ar ôl iddo gael ei ganfod yn euog o weithgaredd rhywiol gyda ffan 15 mlwydd oed.
Bu i’r asgellwr gyfaddef i drosedd arall o fynd ati i hudo’r ferch a oedd yn addoli’r chwaraewr sydd wedi cynrychioli Sunderland, Manchester City a Lloegr.