Mae rhybudd i feicwyr a pherchnogion cŵn Abertawe gymryd gofal dros benwythnos y Pasg ar ôl i gannoedd o binnau bawd cael eu gollwng yn fwriadol ar lwybr arfordirol y ddinas.
Fe gafodd y pinnau eu gollwng ar hyd llwybr promenade, tair milltir o hyd ar Fae Abertawe.
Mae swyddogion y Cyngor eisoes wedi clirio’r ffordd sawl gwaith ar ôl i nifer o feicwyr gael pyncjar.
“Mae’n debygol bod hyn wedi cael ei wneud yn fwriadol am y nifer o binnau bawd sydd wedi cael eu gadael mewn sawl lleoliad ar y prom,” meddai llefarydd.
“Mae hwn yn rhywbeth anghyfrifol a pheryglus iawn i’w wneud gan ei fod yn rhoi defnyddwyr y prom mewn perygl.”
Dywedodd y cyngor ei fod yn annog unrhyw un sy’n gweld rhywbeth amheus neu sy’n meddwl ei fod yn gwybod pwy sy’n gyfrifol i naill ai gysylltu â’r heddlu neu’r cyngor.
Mae’r prom yn ymestyn o ganol y ddinas i dref y Mwmbwls, ac mae’n cael ei ddefnyddio gan gannoedd ar filoedd o bobol bob blwyddyn.