Anjem Choudary
Mae dyddiad dros-dro wedi’i bennu ar gyfer achos llys y pregethwr radicalaidd, Anjem Choudary. Mae wedi’i gyhuddo o ddefnyddio gwefannau cymdeithasol er mwyn gwahodd pobol i gefnogi’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Fe fydd y pregethwr 49 oed, ynghyd a’i gyd-ddiffynnydd, Mohammed Rahman, yn mynd gerbr0n eu gwell yn llys yr Old Bailey yn Llundain ar Fehefin 27, ac mae disgwyl i’r achos bara am ddim mwy na phedair wythnos.

Mae’r ddau ddiffynnydd eisoes wedi pledio’n ddieuog, ac mae’r ddau ar hyn o bryd ar fechniaeth, gydag amodau llym.

Mae gwrandawiad cyn i’r achos ddechrau wedi’i bensilio yn y dyddiadur ar gyfer Mehefin 24.