Mae gŵyl gerddoriaeth Gymraeg Caerdydd wedi cyhoeddi ei lein-yp heddiw, gyda 34 o artistiaid yn chwarae dros benwythnos yng Nghastell y ddinas.
Maffia Mr Huws, Band Pres Llareggub, Sŵnami a Candelas fydd y prif fandiau i berfformio ar y dydd Sadwrn, gyda Y Niwl, Cowbois Rhos Botwnnog, Palenco a Bryn Fôn ar y dydd Sul.
Ar Lwyfan Acwstig yr ŵyl, bydd Meic Stevens, Alys Williams, Colorama, Plu, Al Lewis a Huw M ymysg y rhai fydd yn perfformio.
Mae’r ŵyl yn dathlu ei phen-blwydd yn 10 oed eleni, ers ei dechrau ar raddfa llawer llai ym maes parcio’r dafarn Y Mochyn Du.
Mae bellach wedi troi’n un o brif wyliau’r sin gerddoriaeth Gymraeg a ddenodd dros 34,000 y llynedd, dros gyfnod o naw diwrnod mewn digwyddiadau amrywiol ar draws y ddinas, yn ogystal â’r gig dros y penwythnos.
Ei phrif gyllidwr yw Llywodraeth Cymru, gyda dros £100,000 hefyd yn dod ar ffurf cefnogaeth gan Gyngor Dinas Caerdydd. Mae ei noddwyr eraill yn cynnwys Y Cyngor Celfyddydau, BBC Radio Cymru a Chlwb Ifor Bach.
Americanwr yn llysgennad yr ŵyl
Kliph Scurlock, canwr roc o Kansas sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, yw llysgennad yr ŵyl, a hynny oherwydd “ei gariad at y gerddoriaeth unigryw a rhyfeddol sy’n cael ei greu yng Nghymru”.
“Rwy’n deall prin ddim Cymraeg (rwy’n bwriadu cymryd gwersi i gywiro hynny!), ond dwi bob amser wedi mwynhau gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg,” meddai cyn drymiwr y Flaming Lips.
“Mae yna rywbeth am yr iaith sydd yn swnio’n hynod braf i fy nghlust, ac er fy mod yn colli allan ar rai geiriau anhygoel, mae sŵn y geiriau eu hunain yn paentio llun digon byw nad wyf erioed wedi teimlo fel bod i wedi bod yn colli allan.”
Bydd yr ŵyl, sydd a’i mynediad am ddim, yn digwydd rhwng 2 a 3 Gorffennaf eleni, gyda digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal o ddydd Sadwrn 25 Mehefin.
Bydd hefyd yn cynnwys gweithgareddau bwyd a diod, llenyddiaeth, chwaraeon, comedi ac ardal plant.
Y lein-yp yn llawn
Candelas / Band Pres Llareggub / Maffia Mr Huws / Eden / Sŵnami / Yr Eira / Ysgol Sul / Y Cledrau / Trwbz / Cadno / Cowbois Rhos Botwnnog / Colorama / Alys Williams / Ani Glass / Plu / Gai Toms / Bryn Fôn / Y Niwl / Elin Fflur / Ar Log a Dafydd Iwan / Alun Gaffey / Palenco / Rogue Jones / Y Gerddorfa Ukulele / Al Lewis / Huw M / Huw Chiswell / Meic Stevens / Carreg Lafar / Sera / DJ Gareth Potter / DJ Carl Morris / DJ’s Elan a Mari / DJ’s Nyth