Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi heddiw pwy fydd yn perfformio ar rai o’i phrif lwyfannau dros yr ŵyl yn y Fenni eleni.

Prif artistiaid Llwyfan y Maes yw CandelasYws GwyneddHuw Chiswell a’r Band, Band Pres Llareggub a Chowbois Rhos Botwnnog.

Bydd Band Jazz Rhys Taylor yno nos Iau, a Plu a Geraint Lovgreen yno nos Sadwrn hefyd.

Y BandanaYr EiraYr OdsHMS Morris ac Y Reu fydd rhai o brif fandiau Maes B, gan gynnwys Yws GwyneddCandelas a Band Pres Llareggub hefyd.

Only Men AloudGwawr Edwards a Rebecca Trehearn yw rhai o’r prif berfformiwr gyda’r nos yn y pafiliwn newydd, a fydd hefyd yn cynnwys gig gyda CandelasYr Ods a Sŵnami.

Huw Stephens fydd yn cyflwyno’r gig hwn, lle fydd cerddoriaeth y bandiau yn cael ei pherfformio i gyfeiliant y Welsh Pops Orchestra dan arweiniad y cerddor Owain Llwyd.

Bydd Catrin Finch yno hefyd yn cyflwyno gwaith clasurol newydd yn Serenestial: Antur trwy Ofod ac Amser, gydag Elin Manahan-ThomasBallet CymruCharlie Lovell-Jones, a’r actores Sara Lloyd-Gregory yn darllen cerddi sydd wedi’u comisiynu’n arbennig gan y bardd, Eurig Salisbury.

“Gwella profiad y gynulleidfa”

“Rydym yn hyderus y bydd yr adeilad hwn (y pafiliwn newydd) yn gwella’r profiad i’r gynulleidfa a’r artistiaid,” meddai Elen Elis, Trefnydd yr Eisteddfod.

“Mae poblogrwydd Llwyfan y Maes wedi ffrwydro dros y blynyddoedd diwethaf – dyma ganolbwynt y Maes i lawer, ac mae sicrhau bod y bandiau a’r perfformwyr gorau i’w gweld yma, ynghyd â rhoi llwyfan i ddoniau mwy lleol a newydd, yn rhan hollbwysig o’n gwaith.”

 

Canmlwyddiant y Gymanfa Ganu

Bydd yr Eisteddfod hefyd yn nodi canmlwyddiant ers dechrau Cymanfa Ganu’r Eisteddfod Genedlaethol, gyda rhai o’r emynau a gafodd eu canu am y tro cyntaf yn cael ail-fyw eto eleni.

Yn y pafiliwn nos Sadwrn, bydd Big Band Rhys Taylor yn cyfeilio i’r perfformiwr o’r West End, Caroline Sheen, a’r canwr swing a soul, James Williams, gyda Chôr yr Eisteddfod, dan arweiniad Jeffrey Howard.

Ac yn y Noson Lawen nos Lun, bydd Phyl Harries yn cyflwyno noson gyda Rhydian Roberts, Katy Treharne, Trystan Llŷr a Gwydion GriffithsBand Pres Llareggub, Ifan GruffyddElan a Miriam Isaac a Non Parry, Dyfan Roberts, Olion Byw, Côr Rygbi Unedig y De a Dawnswyr a Chôr Bro Taf.

Mae mwy o fandiau ac artistiaid i’w cyhoeddi eto yn ôl yr Eisteddfod a bydd modd prynu tocynnau o 1 Ebrill ymlaen.

“Bydd y gwaith yn cychwyn ar y Maes ym mis Mehefin, ac ymhen dim o dro, byddwn yn edrych ymlaen at groesawu pawb atom i Ddolydd y Castell, Y Fenni o 29 Gorffennaf – 6 Awst,” ychwanegodd Elen Elis.