Mae sawl aelod o blaid Nigel Farage wedi bod yn ffraeo â'i gilydd dros yr wythnosau diwethaf ynglŷn â refferendwm Ewrop ac etholiadau mis Mai
Mae cyn is-gadeirydd UKIP Suzanne Evans wedi cael ei gwahardd o’r blaid, yn ôl Nigel Farage.

Fe ddywedodd arweinydd UKIP ei bod hi’n gam “anffodus”, ond bod rhai pobol yn “ffraeo gyda’u plaid eu hunain ac weithiau’n dweud a gwneud pethau ddylen nhw ddim eu gwneud”.

Mae Suzanne Evans a Nigel Farage wedi anghytuno dros ba grŵp ddylen nhw gefnogi fel yr ymgyrch swyddogol i geisio annog Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond fe fynnodd arweinydd y blaid nad oedd gwahardd Evans, oedd eisoes wedi colli ei swydd fel is-gadeirydd a llefarydd y blaid ar les, yn ymgais i ddial arni.

“Does gen i ddim amser ar gyfer dial. Nid dim ond refferendwm sydd gennym ni i’w hymladd, ond sawl etholiad pwysig ar draws Prydain mewn ychydig o wythnosau ar 5 Mai,” meddai Nigel Farage.

Mae’r polau piniwn diweddaraf wedi dangos bod yr ymgyrch i gadw Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd yn parhau i fod ar y blaen, gan gynnwys yng Nghymru, wrth i’r refferendwm ar 23 Mehefin agosáu.

Ond mae’r polau diweddaraf yng Nghymru hefyd wedi awgrymu bod UKIP dal yn debygol o ennill seddi yn y Cynulliad yn etholiadau mis Mai, er bod eu cefnogaeth wedi llithro ychydig.