Mae Theresa May wedi mynnu bod y gymuned Fwslemaidd yn rhoi cymorth i'r awdurdodau wrth geisio dod o hyd i farwychwyr
Mae’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May wedi beirniadu Donald Trump wedi i’r ymgeisydd arlywyddol yn yr UDA wneud sylwadau am Fwslemiaid Prydain.

Dywedodd Trump fod “problem anferth” gyda Mwslemiaid oedd “ddim yn adrodd” wrth yr heddlu am weithredoedd amheus yn ymwneud â brawychiaeth.

Ond mynnodd Theresa May “nad yw hynny’n wir o gwbl” wrth iddi siarad â Thŷ’r Cyffredin yn sgil yr ymosodiadau diweddar yng Ngwlad Belg.

Y gre yw bod tri dyn wedi bod yn gyfrifol am yr ymosodiadau ar faes awyr a Metro Brwsel a bod un ohonynt, Najim Laachraoui, yn parhau i fod ar ffo.

‘Hollol anghywir’

Yn gynharach roedd Trump, y ceffyl blaen yn y ras Weriniaethol i gael ei ddewis yn ymgeisydd arlywyddol, wedi dweud wrth raglen Good Morning Britain ar ITV nad oedd Mwslemiaid yn gwneud digon i daclo’r bygythiad.

Ond mynnodd Theresa May nad oedd hynny’n wir, a bod Trump yn “hollol anghywir”.

“Rydyn ni’n gweld pobol o fewn y cymunedau Mwslimaidd ym Mhrydain sydd yr un mor bryderus â phawb arall ym Mhrydain, ynglŷn â’r ymosodiadau sydd wedi digwydd,” meddai’r Ysgrifennydd Cartref.

“Ond hefyd maen nhw’n bryderus ynglŷn â’r ffordd y mae Islam yn cael ei wyrdroi ganddyn nhw i mewn i’r ideoleg sy’n eu harwain nhw at drais.

“Fe fyddwn ni’n parhau i weithio gyda nhw i sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth i uno ein cymunedau, nid eu rhannu.”