Huw Irranca-Davies
Mae’r Aelod Seneddol Llafur, Huw Irranca-Davies, wedi rhoi’r gorau i’w sedd yn Nhŷ’r Cyffredin yn ffurfiol er mwyn sefyll yn etholiadau’r Cynulliad eleni.

Ond mae’r penderfyniad eisoes wedi arwain at sïon y gallai fod yn meddwl am sefyll dros arweinyddiaeth Llafur Cymru yn y dyfodol – gyda gwleidyddion o’r pleidiau eraill yn fwy na pharod i gorddi’r dyfroedd.

Fe drydarodd yr AS Ceidwadol dros Sir Drefaldwyn, Glyn Davies, y byddai Huw Irranca-Davies yn “Brif Weinidog gwych os allai guro’r Tori”.

Daw hynny er gwaethaf y ffaith nad yw’r Prif Weinidog presennol ac arweinydd Llafur Cymru, Carwyn Jones, wedi datgan unrhyw fwriad i roi’r gorau i’w rôl yn fuan.

Isetholiad Ogwr

Mae Huw Irranca-Davies wedi bod yn Aelod Seneddol dros Ogwr, un o gadarnleoedd cryfaf y Blaid Lafur, ers 2002 a bydd isetholiad yno i ddewis ei olynydd ar yr un diwrnod ag etholiadau’r Cynulliad ar 5 Mai.

Mae Llafur wedi dewis Chris Elmore, aelod o Gabinet Cyngor Bro Morgannwg, fel eu hymgeisydd nhw ac mae Plaid Cymru wedi dewis Abi Thomas i’w herio yno.

Bydd Huw Irranca-Davies yn sefyll yn etholaeth Ogwr, yr un ardal ag yr oedd yn ei gynrychioli yn Nhŷ’r Cyffredin.

Yn ystod ei gyfnod fel Aelod Seneddol bu’n weinidog yn y Swyddfa Gymreig ac yn yr Adran Amgylchedd rhwng 2007 a 2010, ac yna’n aelod o dîm cysgodol Ed Miliband rhwng 2010 a 2015.