Llun o David Dixon sydd wedi cael ei roi ar wefannau cymdeithasol yn apelio am wybodaeth
Mae partner dyn sydd wedi ar goll ym Mrwsel wedi bod yn chwilio amdano yn ysbytai prifddinas Gwlad Belg yn dilyn yr ymosodiadau brawychol yr wythnos hon.

Mae Downing Street wedi dweud eu bod yn gofidio am David Dixon o Hartlepool, a bod tri o bobol eraill o wledydd Prydain a gafodd eu hanafu yn yr ysbyty.

Nid yw teulu David Dixon, sy’n byw ym Mrwsel, wedi bod mewn cyswllt ag ef ers i’r bomiau gael eu ffrwydro, ac mae lle i gredu y gallai fod wedi bod yn teithio ar y Metro pan ffrwydrodd y bom yng ngorsaf danddaearol Maelbeek.

Roedd e ar ei ffordd i’r gwaith ar y pryd, ond nid oedd wedi cyrraedd ei swyddfa.

Mae ei ffrindiau wedi bod yn apelio am wybodaeth ar wefannau cymdeithasol.

Dywedodd Marie, chwaer ei bartner, Charlotte Sutcliffe, wrth Radio 4 fod Charlotte wedi bod yn ysbytai’r brifddinas yn y gobaith o ddod o hyd iddo.

“Dydy pawb o blith y rhai sydd wedi’u hanafu ddim wedi cael eu hadnabod eto, felly mater o aros yw hi i’r broses honno ddigwydd.

“Mae pawb yn cael trafferthion cyfathrebu yno, neu mi oedden nhw ddoe beth bynnag, gyda llinellau ffôn i lawr a phopeth yn cael ei gau.”

Ychwanegodd fod y teulu’n derbyn cymorth consylaidd.

Mae gan y ddau fab ifanc.

Mae lluniau o David Dixon wedi cael eu rhoi ar wefannau cymdeithasol.