Lladrad Hatton Garden yn Llundain
Mae’r dyn oedd yn cael ei amau o gynllwynio lladrad Hatton Garden wedi cael ei ddedfrydu i chwe blynedd a thri mis o garchar.

Roedd Brian Reader, sy’n 77 oed, wedi cael strôc yng Ngharchar Belmarsh yn dilyn y lladrad gemwaith gwerth £14 miliwn yn Llundain – y lladrad mwyaf yn hanes y DU.

Fe ymddangosodd Reader yn Llys y Goron Woolwich drwy gyswllt fideo i gael ei ddedfrydu gan y Barnwr Christopher Kinch QC.

Roedd Reader, aelod hynaf y gang, wedi pledio’n euog o gynllwynio i gyflawni lladrad ym mis Medi’r llynedd.

Dywedodd y barnwr ei fod wedi cymryd i ystyriaeth y ffaith bod Reader yn “ddifrifol wael” ac angen cymorth yn ddyddiol.

Er nad oedd Reader, o Dartford yng Nghaint, yn bresennol yn ystod ail noson y lladrad, meddai’r barnwr, roedd wedi bod yno ar y noson gyntaf ac wedi cymryd rhan yn y broses gynllwynio.