Cheryl James
Mae cyn-sarsiant y Fyddin wedi gwadu pigo ar y milwr ifanc o Langollen a fu farw ym marics Deepcut yn 1995 am nad oedd “wedi rhannu ei ddiddordeb rhamantus.”
Mewn cwest i farwolaeth Cheryl James yn Llys y Crwner Woking, gofynnwyd i’r cyn-sarsiant Adrian Stevens: “Roeddech chi’n ffansio Cheryl. Fe wnaethoch roi’r swyddi da iddi i gyd, a phan wnaeth hi ddim ymateb, dechreuoch chi bigo arni – dyna’r gwir, yndê?”
“Na” oedd ateb Adrian Stevens, a oedd wedi disgrifio Cheryl James cyn hynny fel merch “fywiog iawn” a “phrydferth.”
Fe wadodd iddo roi gwaith goruchwylio ychwanegol iddi fel cosb, gan ddweud ei fod wedi synnu pan glywodd am ei marwolaeth.
Dywedodd Adrian Stevens yn gynharach yn y cwest ei fod wedi gadael y Fyddin ym mis Mawrth 2005 ac wedi disgrifio ei amser yn Deepcut fel “dwy flynedd a hanner gwaethaf fy mywyd.”
Mae’r cwest yn parhau i farwolaeth Cheryl James a fu farw’n 18 oed ym marics Deepcut yn Surrey ym mis Tachwedd 1995 gyda bwled yn ei phen. Roedd yn un o bedwar milwr ifanc i farw yn y barics o fewn saith mlynedd.
Mae’r cwest yn parhau.