Bydd swyddogion yr heddlu ledled Cymru’n cadw golwg fanylach ar feicwyr modur dros y misoedd nesaf i leihau’r risg o anafiadau a marwolaethau’n ymwneud â beiciau modur.

Fel rhan o ‘Ymgyrch Darwen’ bydd yr heddlu’n cynnal gwiriadau cyflymder ar y ffyrdd prysura’ a mwya’ poblogaidd dros gyfnod yr haf.

Mae ffigurau’r heddlu’n dangos bod beicwyr modur yn cyfrif am 1% o holl draffig y ffyrdd – ond 18% o’r holl farwolaethau.

Rhai o’r rhesymau yw goddiweddi, reidio ar gyflymder o gwmpas corneli, colli rheolaeth a dylanwad alcohol.

‘Rhywle i rasio’

 

Yn ôl Rob Kirman, Uwcharolygydd Uned Plismona’r Ffyrdd yn Heddlu’r Gogledd, cafodd 84 o feicwyr modur neu deithwyr eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol ar ffyrdd gogledd Cymru yn 2015.

“Yn hanesyddol, mae nifer fawr o feicwyr modur yn ymweld â gogledd Cymru o ganlyniad i natur heriol y ffyrdd,” esboniodd.

Ond, “tra bod y rhan fwyaf o feicwyr modur yn reidio mewn modd priodol – mae rhai yn defnyddio’r ffyrdd fel rhywle i rasio ac yn torri deddfwriaethau diogelwch y ffyrdd mewn modd difrifol.”

‘Angen dod yn gyfarwydd â’r beic’

 

“Yr ychydig wythnosau cyntaf ar ôl mynd yn ôl ar gefn y beic yw’r adeg fwya’ bregus i feicwyr,” meddai Robert Gwynne Thomas, Arolygydd Heddlu De Cymru.

“Mae’n werth cymryd hi’n araf am ychydig er mwyn dod yn gyfarwydd â’r beic unwaith eto.

Gwiriwch eich beic yn ofalus cyn mynd allan, a gwnewch yn siŵr ei fod dal yn addas i’r ffyrdd.”

Bydd Ymgyrch Darwen yn cychwyn dydd Gwener (Mawrth 25) ac yn parhau tan gyfnod yr hydref.