Mae lefelau staffio yn adrannau brys ysbytai Cymru ar lefel “beryglus o isel” yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, ar ôl cyflwyno Cais Rhyddid Gwybodaeth i fyrddau iechyd Cymru.
Yn ôl y ffigurau, dim ond un adran frys ledled y wlad sy’n cyrraedd yr isafswm lefel staffio sy’n cael ei argymell gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys.
Ond mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod y ffigurau hyn yn “gamarweiniol” gan nad ydyn nhw’n ystyried meddygon cyffredin a staff sydd ddim ar lefel ymgynghori.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod “mwy o feddygon ymgynghorol yn adrannau brys yng Nghymru erbyn hyn nag oedd pum mlynedd yn ôl, gyda niferoedd yn cynyddu 50%”.
Er hyn, mae’r Ceidwadwyr wedi dweud bod y ffigurau yn “amlygu’r argyfwng staffio” sydd wrth wraidd y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Y ffigurau
Wrth ystyried yr isafswm hwn, yn ystod wythnos gyntaf mis Rhagfyr 2015, roedd pob bwrdd iechyd yn tangyflawni, gydag ond 15% o ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cyrraedd y nod.
37% o ysbytai Cwm Taf oedd yn cyrraedd yr isafswm, tra bod Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro â bron i 52% o’i hysbytai â’r lefel staffio sy’n cael ei argymell.
Roedd y ffigwr yn 41.3% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, tra bod 68% o ysbytai Aneurin Bevan yn cyrraedd yr argymhelliad a 82.5% ym Mwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg.
‘Anghenion pob ysbyty yn amrywio’
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth nad yw’n dilyn yr isafswm sydd wedi’i osod gan y Coleg gan fod anghenion pob ysbyty yn amrywio.
Ond mae’r Ceidwadwyr yn dweud bod yr isafswm yn bwysig ac y dylai gael ei gymryd o ddifrif.
Ysbyty Treforys yn Abertawe oedd â’r lefel staffio uchaf – 110% o dan argymhelliad y Coleg, a’r unig ysbyty ledled Cymru i gyrraedd yr isafswm hwn.
Mae’r darlun tipyn yn waeth mewn mannau eraill, gyda 10% yn unig yn Ysbyty’r Tywysog Philip, Llanelli ac Ysbyty Bronglais, Aberystwyth. 20% oedd yn ysbyty Glan Clwyd, prif ysbyty’r gogledd.
Wfftio ffigurau
Yn ôl y Ceidwadwyr, roedd tua 3,300 o gleifion wedi aros dros 12 awr i gael eu gweld mewn uned frys yng Nghymru, o gymharu â 158 yn Lloegr.
Ond wfftiodd Llywodraeth Cymru hyn, gan ddweud bod ffigurau yng Nghymru yn cael eu cyfrif rhwng pryd mae’r claf yn cyrraedd yr uned a’i gadael, tra yn Lloegr, mae’r ffigurau yn cael eu nodi pan fydd y claf hwnnw yn gweld doctor.
Mynnodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, nad oedd y ffigurau “yn ddigon da.”
“Mae’n rhoi pwysau anferth ar staff y Gwasanaeth Iechyd sy’n gweithio’n galed,” meddai, “… dyna etifeddiaeth toriadau iechyd mwyaf erioed Llafur.”
Dydy Llywodraeth Cymru ddim yn derbyn y ffigurau a dywedodd llefarydd: “Rydym yn gweithio gyda Byrddau Iechyd i wneud Cymru yn lle deniadol i weithio fel ein bod yn recriwtio ac yn cadw mwy o ymgynghorwyr i weithio yn ein hysbytai,” meddai.
“Rydym yn disgwyl pob bwrdd iechyd i sicrhau bod ganddynt y cymysgedd cywir o staff i sicrhau bod gwasanaethau yn ddiogel ac yn gynaliadwy, ac i sicrhau ein bod yn cael y canlyniadau gorau a’r profiad gorau i’r claf.”