Mae pump o bobl, gan gynnwys o leiaf dau blentyn, wedi cael eu lladd ar ol i’w car lithro oddi ar bier i’r môr yn Swydd Donegal yng Ngweriniaeth Iwerddon neithiwr.

Mae babi a gafodd ei achub o’r cerbyd mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty ar ol y digwyddiad ar Bier Buncrana.

Dywed y gwasanaethau brys eu bod nhw wedi dod o hyd i gyrff dau fachgen, a dyn a dynes. Nid yw oedran person arall a fu farw wedi cael ei gadarnhau.

Nid yw eu henwau wedi cael eu cyhoeddi hyd yn hyn.

Mae’r heddlu’n trin y digwyddiad fel damwain ac mae’n debyg bod y car wedi llithro i’r môr tua 7.30yh nos Sul.