Mae Bil newydd fydd yn sicrhau lefel benodol o nyrsys ar wardiau ysbytai yn cael sêl bendith swyddogol heddiw er mwyn dod yn gyfraith.
Mae hyn yn golygu mai Cymru fydd y wlad gyntaf yn Ewrop i’w gwneud hi’n ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu isafswm o nyrsys ar wardiau sy’n cynnig gofal mwy arbenigol i gleifion.
Cyflwynodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams, y Bil fel Bil Preifat yn 2013. Cafodd ei gymeradwyo gan ACau fis diwethaf.
Ychwanegodd Kirsty Williams y byddai am ehangu’r Bil i gynnwys wardiau iechyd meddwl, mamolaeth a nyrsys cymunedol pe bai ei phlaid yn dod i rym wedi etholiadau’r Cynulliad.
‘Ehangu’r gyfraith’
“Fe fydd ein Bil, sy’n dod i rym heddiw, yn darparu mwy o nyrsys ar wardiau arbenigol mewn ysbytai,” meddai Kirsty Williams wrth siarad cyn y seremoni yng Nghaerdydd heddiw.
“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi sicrhau bod Cymru’r cyntaf yn Ewrop sydd â dyletswydd gyfreithiol am lefelau staffio.
“Byddwn ni’n ychwanegu at y llwyddiant hwn drwy ehangu’r gyfraith i gynnwys wardiau iechyd meddwl, mamolaeth a nyrsys cymunedol,” esboniodd.
“Dy’n ni gyd eisiau i staff y Gwasanaeth Iechyd (GIG) gael amser i ofalu am ein hanwyliaid, a dyna pam y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn darparu lefelau staffio diogel ar draws y GIG.
“Byddwn ni’n rhoi mwy o nyrsys yn ein hysbytai ac yn ein cymunedau i greu GIG sy’n gweithio i chi.”