Stephen Crabb, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau newydd
Fe fydd y Llywodraeth yn rhoi’r gorau i doriadau i fudd-daliadau anabledd yn dilyn ymddiswyddiad Iain Duncan Smith ddydd Gwener.
Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau newydd Stephen Crabb ddweud mewn datganiad wrth y Senedd eu bod nhw’n sgrapio’r toriadau i’r Taliad Annibyniaeth Personol (PIP).
Mae’n debyg y bydd y Prif Weinidog David Cameron yn cael ei herio heddiw pan fydd yn annerch Aelodau Seneddol ynglŷn â’r uwch-gynhadledd ym Mrwsel i drafod argyfwng y ffoaduriaid.
Daw’r datblygiadau yn dilyn ffraeo o fewn y Blaid Geidwadol gydag Iain Duncan Smith yn beirniadu’r Canghellor George Osborne am roi cap ar wariant y wladwriaeth les a’i gyhuddo o fod ag obsesiwn gydag “arbedion byrdymor” sy’n targedu pobl ddifreintiedig a bregus.
Mae cyn-arweinydd y Blaid Geidwadol wedi mynnu nad yw ei ymddiswyddiad yn “bersonol” nac yn “ymosodiad” ar y Prif Weinidog ynglŷn ag Ewrop.
Mae canghellor yr wrthblaid John McDonnell wedi mynnu bod yn rhaid i George Osborne “ddod yn ôl i’r Senedd, a dechrau o’r dechrau gan nad ydy’r Gyllideb yma’n gynaliadwy rhagor,” meddai wrth BBC Radio 5 live.
Mae disgwyl i’r Blaid Lafur gyflwyno cwestiwn brys mewn ymgais i orfodi’r Canghellor i ddod i’r Senedd.