Cafodd Samson Lee ei alw'n gypsy boy gan wrthwynebydd
Mae pennaeth cwmni Celfyddydau a diwylliant y gymuned Romani yng Nghaerdydd wedi beirniadu chwaraewr rygbi Lloegr, Joe Marler yn dilyn ei sylwadau sarhaus am brop Cymru, Samson Lee yn Twickenham yr wythnos diwethaf.
Fydd Marler ddim yn cael ei gosbi ond mae Isaac Blake, cyfarwyddwr y Romani Cultural and Arts Company wedi dweud wrth Golwg360 nad oes lle i’r fath sylwadau yn y gymdeithas sydd ohoni heddiw.
“Dydy hi byth yn briodol defnyddio ethnigrwydd na chefndir diwylliannol rhywun fel sarhad,” meddai.
Gweithdy codi ymwybyddiaeth
Daw ei sylwadau wrth i’r cwmni gyhoeddi manylion gweithdy fis nesaf fydd yn herio agweddau pobol at y gymuned deithiol.
Nod y gweithdy ar Ebrill 29 yw cynyddu’r cyswllt rhwng y gymuned deithiol a’r gymdeithas ehangach ac i adnabod anghenion y gymuned honno wrth iddyn nhw chwarae rhan yn y gymdeithas o’u cwmpas.
Un o brif amcanion y cwrs yw tynnu sylw at aelodau’r gymdeithas sy’n cael eu hystyried yn arwyr ac a all helpu i chwalu’r ddelwedd draddodiadol negyddol o’r gymuned.
Ychwanegodd Isaac Blake: “Mae ein hyfforddiant wir yn cefnogi ac yn herio pobol i ystyried yn ofalus y rhagfarn sydd ganddyn nhw yn yr isymwybod, a hefyd eu defnydd o iaith wrth siarad â chymunedau lleiafrifol, bregus ac amdanyn nhw.”
Mae’r corff World Rugby, sy’n llywodraethu’r byd rygbi rhyngwladol wedi gofyn i drefnwyr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad i egluro pam nad ydyn nhw wedi cosbi Marler.
Yn ôl rheolau’r gamp, fe ddylai unrhyw un sy’n cael ei ganfod yn euog o ddefnyddio iaith sarhaus neu hiliol gael gwaharddiad o hyd at fis.