Mae gohebydd criced BBC Cymru, Edward Bevan wedi talu teyrnged i “gymeriad mawr” yn dilyn y newyddion am farwolaeth y newyddiadurwr chwaraeon David Green yn 76 oed.
Fe fu’n dioddef o broblemau resbiradol, ac fe fu farw yn yr ysbyty yn Nyfnaint, lle bu’n byw ers ei ymddeoliad.
Er iddo gael ei eni yn Llanengan ger Abersoch, cafodd David Green ei fagu yn Swydd Gaer ac fe ddysgodd ei grefft fel cricedwr yn Swydd Gaerhirfryn.
Cynrychiolodd dîm criced Prifysgol Rhydychen am dri thymor o 1959 i 1961, cyn mynd ymlaen i chwarae dros Swydd Gaerhirfryn ac yna Swydd Gaerloyw.
Fe darodd 1,000 o rediadau mewn tymor saith gwaith yn ystod ei yrfa.
Yn 1965 pan oedd yn is-gapten Swydd Gaerhirfryn, fe darodd 2,000 o rediadau mewn tymor heb fod wedi taro’r un canred ar y ffordd.
Symudodd i Swydd Gaerloyw yn 1968, gan sgorio 2,137 o rediadau yn ei dymor cyntaf, gan gynnwys cyfanswm unigol gorau erioed o 233, a chael ei enwi’n un o gricedwyr gorau’r tymor gan Wisden.
Yn y gaeaf, roedd yn chwaraewr rygbi dawnus, gan gynrychioli Sale, Swydd Gaer a Bryste.
Fel newyddiadurwr, roedd yn ysgrifennwr cyson i’r Daily Telegraph.
Cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, ‘A Handful of Confetti’ yn 2013, oedd yn rhannol hunangofiannol, gan adrodd amryw straeon o’i fywyd ym meysydd criced a rygbi.
‘Boi ffein’
Dywedodd gohebydd criced BBC Cymru, Edward Bevan wrth Golwg360: “Roedd ei farwolaeth yn sioc mawr i ni gyd.
“Roedd e’n foi ffein iawn. Yn gymdeithasol, o’dd e’n dipyn o gymeriad. O’dd e’n foi mawr ac yn gymeriad mawr, a phob un yn ei hoffi fe.
“Aeth e i [Brifysgol] Rhydychen ac fell o’dd e’n brainy iawn, yn amlwg. O fewn pum munud yn y bocs [y cyfryngau] gyda fe, o’dd pawb yn chwerthin.
“Fel cricedwr, o’dd e’n agor y batiad ac yn ymosodol iawn, ac yn arbennig o dda mewn gemau undydd.
“Daeth e’n agos iawn at chwarae i Loegr. Fel bowliwr, o’dd e’n fowliwr lled-gyflym da iawn, eto mewn gemau undydd yn enwedig.”