Hal Robson-Kanu yn gobeithio bod yn holliach erbyn nos Iau
Mae amheuon am ffitrwydd dau o chwaraewyr Cymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer gemau cyfeillgar yn erbyn Gogledd Iwerddon a’r Wcráin.

Cafodd Robson-Kanu anaf i’w goes wrth i Reading a Chaerdydd orffen yn gyfartal 1-1 ddydd Sadwrn, ac roedd anaf i’w goes yn golygu nad oedd Taylor ar gael i Abertawe wrth iddyn nhw groesawu Aston Villa i’r Liberty nos Sadwrn.

Mae disgwyl i Robson-Kanu gael asesiad cyn penderfynu a fydd e’n wynebu Gogledd Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau.

Yn y cyfamser, mae rheolwr Abertawe, Francesco Guidolin wedi cyfaddef nad oedd Taylor wedi cael ei ddewis i wynebu Aston Villa oherwydd ei ymrwymiadau rhyngwladol yr wythnos hon.

Dywedodd yr Eidalwr: “Roedd e bron iawn yn barod ddydd Gwener ond roedd yn well gen i ei atal gan ei fod e’n chwaraewr rhyngwladol sydd â gemau ar y gorwel.”