John Cantlie mewn ffilm flaenorol gan IS
Mae fideo sydd newydd ei rhyddhau gan y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn ymddangos fel pe bai’n cynnwys y ffotonewyddiadurwr Prydeinig, John Cantlie. Fe gafodd ei gipio yn Syria yn 2012, a does dim siw na miw wedi bod amdano gan ei gipwyr ers dros flwyddyn.

Fe gafodd John Cantlie ei ddefnyddio gan IS ar gyfer nifer o ffilmiau tra’n wystl, ac yn y fideo ddiweddara’ hon, mae’n ymddangos yn eiddil a gwan. Yn y fideo, mae’n gwneud hwyl am ben ymdrechion yr Unol Daleithiau i chwalu’r Wladwriaeth Islamaidd.

Fe gafodd y clip cynta’ ei ryddhau ar Twitter, ac mae’n dangos y newyddiadurwr wedi’i wisgo mewn du wrth iddo gerdded o gwmpas adfail o adeilad y mae o’n honni sydd yn ninas Mosul yng ngogledd Irac.

Ond mae arbenigwyr wedi codi cwestiynau ynglyn â phryd yn union y cafodd y fideo ei chreu, a lle’n union hefyd.