Mae dyn 18 oed wedi’i saethu’n farw mewn stryd yn Birmingham.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i ardal Ladywood tua 6.45yh neithiwr, lle’r oedd dyn yn ei arddegau hwyr yn farw gyda thwll bwled yn ei gorff. Mae ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill ers hynny.

Yn y cyfamser, mae’r ffordd wedi’i chau, ac mae timau fforensig a heddlu’r West Midlands yn archwilio’r ardal gyfan er mwyn ceisio dod o hyd i dystiolaeth.