Iain Duncan Smith
Mae gweinidogion Llywodraeth San Steffan yn wynebu pwysau i wneud tro pedol tros cynlluniau am doriad o £1.3 biliwn flwyddyn mewn budd-daliadau anabledd wrth i ASau Torïaidd fygwth gwrthryfela.

Mae’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Iain Duncan Smith wedi ysgrifennu at ASau Torïaidd i fynnu bod ymgynghoriadau yn parhau tra dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Nicky Morgan mai “awgrym” oedd y toriadau arfaethedig.

Mae’r Canghellor George Osborne wedi cael ei rybuddio y byddai ceisio torri’r taliad annibyniaeth bersonol (PIP) yn cael ei drechu mewn pleidlais Cyffredin gan y byddai digon o wrthryfelwyr Torïaid yn mynd yn erbyn eu plaid.

Byddai’r toriadau yn effeithio ar 640,000 o bobl ac roedd dogfennau’r Gyllideb yn dangos y byddai’r cynigion yn arbed mwy na £4 biliwn erbyn 2020-21.