Mae David Cameron wedi dweud ei fod o eisiau anfon llongau’r Llynges i arfordir Libya fel arf i atal miloedd o ymfudwyr a ffoaduriaid rhag cychwyn ar y daith beryglus dros y môr i Ewrop yr haf hwn.

Dywedodd y Prif Weinidog wrth arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel ei fod yn ymestyn y defnydd o HMS Enterprise yn Môr y Canoldir tan yr haf o leiaf, ac mae am weld rhagor o longau milwrol yn nyfroedd Libya i atal y llif o bobl.

Dywedodd swyddogion o’r Deyrnas Unedig y gallai cychod sy’n smyglo pobl gael eu troi yn ôl i gyfeiriad Libya os allan nhw sicrhau’r cydweithrediad angenrheidiol gyda gwylwyr y glannau lleol.

Mae 28 o arweinwyr gwledydd yr Undeb Ewropeaidd yn gobeithio arwyddo cytundeb gyda Twrci heddiw a fyddai’n gweld ymfudwyr yn cael eu dychwelyd i Dwrci os ydynt yn methu cyfweliadau am loches yn Ewrop ar ôl cyrraedd yng ngwlad Groeg.

Byddai’r Undeb Ewropeaidd yna’n derbyn un ffoadur o Syria o wersylloedd yn Nhwrci am bob ymfudwyr afreolaidd mae’n nhw’n ei ddychwelyd, hyd at uchafswm o 72,000.

Fel rhan o’r gytundeb, gall Twrci weld ei becyn cymorth gan yr UE yn dyblu i £ 4.7 biliwn ac yn y pen draw, gallai trigolion y wlad gael mynediad i Ewrop heb fisa.

Mae David Cameron wedi mynnu na fydd y cytundeb yn gweld y DU yn croeso mwy o ffoaduriaid dros y pum mlynedd nesa’.