Belffast
Mae gafodd 11 o bobol eu harestio mewn gwahanol ardaloedd o Belffast, mewn cysylltiad ag ymddygiad annerbygiol ar Ddydd Sant Padrig.

Ddydd Iau, doedd yna ddim meddwi mawr fel ag y fu nos Fercher, ond roedd yna rai achosion o drais. Fe fu peth trafferth hefyd yn ardal fyfyrwyr Holyland yng nghanol y ddinas.

Nos Fercher, fe gafodd yr heddlu eu targedu â photeli a thaflegrau eraill yn Holyland, pan drodd parti stryd o 300 o bobol ifanc yn anhrefn. Roedd rhai adroddiadau fod caneuon IRA yn cael eu canu.

Mae prifysgolion Queen’s ac Ulster wedi rhyddhau datganiad ar y cyd heddiw yn mynnu fod y rhan fwya’ o’r trafferthion wedi’u hachosi gan godwyr trwbwl yn hytrach na myfyrwyr.

Roedd y prifysgolion yn “siomedig” gyda’r twrw, meddai’r datganiad.