Paul Daniels (Rob Oldfield CCA3.0)
Fe fu farw’r consuriwr teledu Paul Daniels yn 77 oed ar ôl colli ei frwydr yn erbyn canser.

Roedd y dyn bychan, bywiog yn enwog am ei sioeau teledu a oedd yn cymysgu comedi gyda chonsurio.

Roedd ei fab, Gary, wedi cyhoeddi neges trydar y bore yma y cadarnhau bod ei dad wedi marw.

Tras Cymreig

Roedd ei yrfa yn ei hanterth yn yr 1980au ar y llwyfan ac ar deledu ac mae nifer o deyrngedau eisoes wedi’u talu iddo.

Yn 1979 y dechreuodd weithio gyda’r actores Debbie McGhee a ddaeth yn gynorthwy-ydd iddo ac wedyn yn wraig.

Roedd Newton Edward Daniels – ei enw go iawn – wedi ei fagu yn ardal Middlesborough ond, ar raglen deledu ‘Coming Home’, fe fu’n olrhain ei achau i dref Caerfyrddin.