Rolf Harris a'i deulu'n cyrraedd achos cynharach (PA)
Mae’r diddanwr o dras Cymreig, Rolf Harris, yn wynebu saith cyhuddiad arall o ymosod yn rhywiol ar ferched, gan gynnwys plant.
Fe fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster heddiw i wynebu cyhuddiadau sy’n deillio o’r cyfnod rhwng 1971 a 2004.
Mae’r canwr a’r arlunydd 85 oed eisoes yn y carchar am chwe blynedd am chwech o droseddau rhyw yn erbyn merched, gan gynnwys plentyn rhwng 7 ac 8 oed.
Mae tri o’r cyhuddiadau y tro yma’n ymwneud â phlant o dan 14 oed.
Y cefndir
Fe gafodd Rolf Harris, a oedd yn enwog am ganu a diddanu plant, ei eni yn Awstralia ond roedd ei rieni’n dod o Gymru.
Mae’n un o chwech person sydd wedi cael ei erlyn ar ôl cyrch heddlu i gam-ymddwyn rhywiol gan enwogion.