Lady Penelope yn Thunderbirds
Mae’r ddynes fu’n gyfrifol am leisio’r cymeriad Lady Penelope yn y gyfres deledu boblogaidd Thunderbirds, Sylvia Anderson, wedi marw yn 88 oed.

Roedd Sylvia Anderson wedi creu’r gyfres bypedau gyda’i gwr, Gerry.

Bu farw yn ei chartref yn Bray, Berkshire yn dilyn salwch byr, meddai ei merch Dee Anderson.

Bu farw Gerry Anderson yn 2012 yn 83 oed ar ôl dioddef o glefyd Alzheimer’s.

Yn ogystal â lleisio Lady Penelope Creighton-Ward yn Thunderbirds o ddechrau’r gyfres yn 1965 hyd at 1968, bu Sylvia Anderson hefyd yn gweithio ar gyfres Joe 90, Captain Scarlet a Stingray.