Heddlu'r Alban yn cynnal ymchwiliad
Mae efeilliaid dwy oed fu farw wedi iddyn nhw foddi mewn pwll pysgod mewn gardd yn yr Alban wedi cael eu henwi’n lleol.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Bae Dalgety am oddeutu 8.20 fore Sadwrn wedi i Rhys a Shaun Scott gael eu darganfod.

Cafodd y ddau eu cludo i’r ysbyty yn Kirkcaldy, lle buon nhw farw’n ddiweddarach.

Dywedodd yr aelod seneddol lleol, Alex Rowley mai dyma “hunllef waethaf pob rhiant”.

Mae’r heddlu’n rhoi cymorth i’r teulu wrth iddyn nhw gynnal ymchwiliad.

Dywedodd y cynghorydd lleol Dave Dempsey fod y gymuned wedi cael sioc.