Dr Dai Lloyd ymhlith y rhai sy'n galw am achub yr amgueddfa
Mae Plaid Cymru’n galw ar Gyngor Dinas a Sir Abertawe i ddiogelu dyfodol amgueddfa’r ddinas yn wyneb toriadau yn ei chyllideb.

Mae deiseb wedi cael ei sefydlu gan Gyfeillion Amgueddfa Abertawe ar wefan 38 Degrees.

Dywed yr ymgyrchwyr fod yr amgueddfa’n “sefydliad gwych yn y ddinas ers 1841”, ac y byddai torri ei chyllideb yn cael effaith andwyol ar gasgliadau ac arddangosfeydd yr amgueddfa, staffio, adnoddau addysg yr amgueddfa a statws y ddinas ar y cyfan o safbwynt twristiaeth.

Wrth gefnogi’r ymgyrch, dywedodd darpar ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru dros Orllewin Abertawe, Dr Dai Lloyd: “Mae Amgueddfa Abertawe’n ased unigryw – un sy’n gwneud cyfraniad anhepgor at fywyd ein cymuned.

“Byddai toriadau arfaethedig y cyngor Llafur yn  amddifadu miloedd o blant o brofiad addysgiadol gwirioneddol amhrisiadwy.

“Mae Amgueddfa Abertawe’n dathlu hanes a threftadaeth y ddinas – byddai ei dirywiad yn weithred o fandaliaeth.”

Mae modd gweld y ddeiseb ar wefan 38 Degrees.