Rhybudd am ragor o doriadau yng nghyllideb George Osborne
Mae disgwyl i’r Canghellor George Osborne gwtogi ar hawliau gweithwyr llawrydd pan fydd yn cyhoeddi ei Gyllideb yr wythnos nesaf.

Fe fydd gweithwyr sifil, gweithwyr y BBC a Banc Lloegr yn cael eu heffeithio gan reolau newydd sy’n ceisio atal pobol rhag manteisio ar drethi drwy weithio’n answyddogol.

Ar hyn o bryd, mae oddeutu 20,000 o weithwyr yn osgoi talu mwy na £3,500 o dreth incwm a chyfraniadau at Yswiriant Gwladol, medd Llywodraeth Prydain.

Mae’r Llywodraeth hefyd yn honni nad yw 90% o’r bobol a ddylai fod yn talu trethi’n gwneud hynny o dan y rheolau presennol.

O dan y drefn sy’n cael ei chynnig gan George Osborne, fe fydd dyletswydd ar gyflogwyr i benderfynu a oes angen codi’r dreth incwm ar gyflog unigolion.

Fe fydd canllawiau newydd ar gael i helpu cyflogwyr i ddod i benderfyniad.

Yn 2012, cafodd y BBC ei beirniadu gan aelodau seneddol wedi iddi ddod i’r amlwg bod 3,000 o bobol wedi derbyn cyflog drwy gwmni gwasanaethau personol er mwyn osgoi talu trethi.

Roedd y drefn honno’n un gyffredin ar gyfer gweithwyr tymor byr ond bellach, mae’n ffordd i nifer gynyddol o bobol osgoi talu trethi.

Bydd yr heddlu, cynghorau, y Gwasanaeth Iechyd, ysgolion, Whitehall, Network Rail a Channel 4 hefyd yn cael eu heffeithio gan y drefn newydd.

Mewn erthygl yn y Sun, rhybuddiodd Osborne y gellir disgwyl rhagor o doriadau yn ei Gyllideb.