Mae dyn wedi’i saethu gan yr heddlu, wedi iddo, yn honedig, anelu bwa a saeth at swyddogion.

Fe gafodd y dyn ei symud o adeilad yn ardal Kilbirnie, Ayrshire, o gwmpas amser cinio heddiw, yn dilyn gwarchae saith awr.

Dyw ei anafiadau ddim yn cael eu hystyried yn rhai difrifol nac yn rhai sy’n peryglu ei fywyd.

Mae llefarydd ar ran Heddlu’r Alban wedi cadarnhau fod dyn 24 oed wedi cael ei saethu. Maen nhw hefyd wedi cadarnhau fod yr un dyn, tua 5.30yb heddiw, wedi’i gloi ei hun mewn adeilad.