Nigel Farage
Mae arweinydd plaid UKIP, Nigel Farage, wedi dweud fod y drafodaeth ar ddyfodol Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd yn canolbwyntio gormod ar ras arweinyddiaeth y blaid Geidwadol.

Tra’n ymgyrchu heddiw, fe chwarddodd ar y cwestiwn os oedd Boris Johnson yn rhoi blaenoriaeth i’r ymgyrch ‘Leave’, gan ddweud fod “gormod” o’r ymgyrch yn trafod materion “glas yn erbyn glas” rhwng David Cameron a Maer Llundain.

“Dydw i’n poeni dim byd am ddyfodol y blaid Geidwadol,” meddai Nigel Farage.

“Yr hyn dw i’n poeni yn ei gylch ydi’r refferendwm, a dw i’n gobeithio na fyddwn ni’n treulio’r pedwar mis nesa’n siarad am bwy fydd arweinydd nesa’r Ceidwadwyr.”