Monte Nevoso, ar y ffin rhwng Yr Eidal ac Awstria
Mae chwech o sgiwyr wedi’u lladd mewn cwymp eira yn Monte Nevoso ar yr Alpau yn yr Eidal.

Fe ddaeth cadarnhad fod y cwymp wedi digwydd am hanner dydd, heddiw, ar uchder o tua 3,000 o fetrau (9,840 troedfedd). Mae’r gwaith o chwilio am sgiwyr sydd ar goll.

Dyw hi ddim yn glir eto faint o sgiwyr oedd yn y grwp, na chwaith beth achosodd y cwymp eira.

Mae Monte Nevoso tua 3,358 metr (11,017 troedfedd) uwchben lefel y mor yn ardal Alto Adige yr Eidal, ar y ffin ag Awstria.