Michael Gove
Mae Michael Gove wedi gwrthod gwadu mai fo oedd ffynhonnell y stori bapur newydd am sylwadau negyddol a wnaed yn honedig gan y Frenhines am yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ystod digwyddiad gan ymgyrch ‘Brexit’ yn sir Hampshire, fe ddywedodd y Gweinidog Cyfiawnder nad oedd yn gwybod o ble y cafodd papur newydd The Sun eu gwybodaeth yn sail i stori dudalen flaen yr wythnos hon.

O ganlyniad i’r stori honno – dan y pennawd ‘Queen Backs Brexit’ – mae Palas Buckingham wedi cwyno i Gomisiwn Cwynion y Wasg.

“Dw i ddim yn gwybod lle y cafodd y Sun yr oll o’i wybodaeth,” meddai Michael Gove heddiw.