Nicole Ceausescu
Mae cartre’ swyddogol y teulu Ceausescu yn Romania wedi’i agor i’r cyhoedd, 26 blynedd wedi i’r teulu gael golli grym.
Fe gafodd 300 o bobol ganiatad i ymweld am ddim a Phalas y Gwanwyn yn Bucharest heddiw.
Fe fydd ymwelwyr eraill yn gallu cael mynediad i’r palas unllawr o Fawrth 19 ymlaen, a hynny ar gost o rhwng 15 lei a 30 lei (£2.60-£5.20). Fe adeiladwyd y palas wedi i’r teulu ddod i rym yn 1965, ac fe fuon nhw’n byw yno tan 1989.
Fe gafodd Nicolae ac Elena Ceausescu eu saethu’n farw yn ystod gwrthryfel Rhagfyr 1989.