Safle damwain awyren Shoreham
Doedd trefnwyr sioe awyr yn Shoreham ddim yn ymwybodol o beth oedd cynlluniau peilot oedd yn hedfan awyren a laddodd 11 o bobol mewn damwain.
Yn ôl adroddiad gan y Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr (AAIB) doedd trefnwyr ddim wedi cynnal asesiad risg digonol.
Fe ddisgynnodd y jet Hawker Hunter 1959 ar draffordd brysur wrth geisio perfformio stỳnt ar 22 Awst 2015, gan ddinistrio sawl cerbyd cyn mynd ar dân.
Fe oroesodd y peilot Andrew Hill, 51.
‘Ddim yn ymwybodol’
Yn ôl yr adroddiad doedd cyfarwyddwr y sioe ddim yn llwyr ymwybodol pa symudiadau fyddai’r peilot yn ei wneud yn ystod ei styntiau.
Doedd e felly ddim yn gwybod ble byddai’r symudiadau’n digwydd, na phwy allai gael eu peryglu.
Roedd yr un awyren wedi hedfan dros ardaloedd preswyl sawl gwaith yn ystod sioe arall yn 2014, er nad oedd y rheolau’n caniatáu hynny, heb i’r peilot gael ei atal rhag gwneud.
Mae disgwyl i wrandawiad llawn i ddamwain sioe awyr Shoreham gael ei chynnal ym mis Mehefin 2016.