Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Llywodraeth Cymru ar ôl i adroddiad ar eu strategaeth addysg Gymraeg ddangos bod sawl targed wedi’i fethu.
Ymysg y rheiny oedd nod y llywodraeth o sicrhau bod 25% o blant saith mlwydd oed yn derbyn addysg cyfrwng Gymraeg erbyn 2015.
Yn ôl yr adroddiad, er bod cefnogaeth eang tuag at gynyddu addysg Gymraeg, doedd gweledigaeth strategaeth y llywodraeth ddim “wedi’i gwreiddio mewn ffordd gyson ar draws yr holl bartneriaid gweithredu ac ar hyd gwahanol haenau’r gyfundrefn addysg”.
Ychwanegodd ymchwilwyr Arad, gafodd eu comisiynu i wneud yr adroddiad, y “dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno datganiad polisi sy’n cadarnhau ac yn atgyfnerthu ei gweledigaeth ar gyfer twf parhaus addysg cyfrwng Cymraeg”.
Colli yn y cadarnleoedd
Un arall o ganfyddiadau’r adroddiad oedd nad oedd digon o blant yn parhau mewn addysg Gymraeg wrth symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.
Yn wir, roedd y data yn awgrymu bod y “gostyngiad mwyaf yn yr awdurdodau lleol gyda’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg”.
“Byddai sicrhau bod canrannau uwch o ddysgwyr yn parhau mewn addysg Gymraeg wrth drosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd yng Ngwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin yn cael effaith sylweddol ar gynnydd yn erbyn y deilliant hwn,” meddai’r adroddiad.
Mewn meysydd eraill, gan gynnwys y canran o ddisgyblion oedd yn astudio nifer o bynciau TGAU drwy’r Gymraeg, cafodd targedau 2015 eu cyrraedd nôl yn 2012 ond mae’r lefel wedi llithro ers hynny.
‘Mor ddamniol ag y gallai fod’
“Mae’r adroddiad yn glir bod y Llywodraeth bresennol ymhell o gyrraedd nifer o’i thargedau allweddol ei hun, ac mae’r sefyllfa mewn rhai siroedd yn ofnadwy,” meddai Toni Schiavone, cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, wrth ymateb i’r adroddiad.
“Mae angen i’r Llywodraeth nesaf gymryd camau radical i ddatrys hyn oll fel bod yr iaith yn ffynnu dros y degawdau i ddod.
“Mae geiriau’r adroddiad mor ddamniol ag y gallen nhw fod am Gymraeg ail iaith gan ystyried mai’r Llywodraeth sydd wedi comisiynu’r adroddiad.
“Mae gwir angen dileu cysyniad Cymraeg ail iaith a sefydlu yn lle un continwwm o ddysgu’r Gymraeg cyn gynted â phosibl. Rydyn ni’n falch bod y Prif Weinidog wedi cytuno i hyn, ond mae perygl y bydd swyddogion yn llusgo eu traed.”
Mae Golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.