Julian Sandham
Fe fydd Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru yn taflu’i enw i’r het i olynu Winston Roddick pan fydd y Comisiynydd presennol yn camu o’r neilltu ym mis Mai.

Cyhoeddodd Winston Roddick yr wythnos hon na fydd yn ailsefyll fel ymgeisydd annibynnol yn etholiadau’r Comisiynydd Heddlu eleni.

Ond mae Julian Sandham, sydd wedi bod yn ddirprwy iddo ac yn gyn-uwch swyddog heddlu, wedi dweud y bydd yntau nawr yn ymgeisio, hefyd fel ymgeisydd annibynnol.

Mae David Taylor eisoes wedi cael ei gadarnhau fel yr ymgeisydd Llafur ar gyfer y ras, tra bod Arfon Jones yn sefyll dros Blaid Cymru, ond dyw’r pleidiau eraill heb wneud eu dewis eto.

‘Pobl leol yn gyntaf’

Mae Julian Sandham nawr yn gorfod ymddiswyddo o’i rôl bresennol fel dirprwy os yw am redeg fel ymgeisydd yn y ras ar gyfer swydd y Comisiynydd.

Ar ôl gyrfa gyda’r heddlu oedd yn cynnwys naw mlynedd fel Prif Uwch-arolygydd, fe weithiodd fel rheolwr prosiect i Gyngor Conwy oedd yn cydweithio’n rhanbarthol ar deledu cylch cyfyng, yn ogystal â darlithio yn Academi Busnes a Thechnoleg Canolbarth Lloegr.

Mynnodd Julian Sandham nad oedd ganddo deyrngarwch i unrhyw blaid wleidyddol ac felly y byddai’n “rhoi pobol leol yn gyntaf” wrth barhau â gwaith Winston Roddick.

“Rydw i’n credu fod y Comisiynydd wedi gwneud swydd ardderchog,” meddai.

“Mae ei ddulliau wedi bod yn gywir i Ogledd Cymru ac mae hwnna yn rhywbeth rydw i eisiau i’w barhau.”

Mae cyfweliad gyda Winston Roddick yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg.