Mark Carney
Gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE) yw un o’r “risgiau domestig mwyaf” mae Prydain yn ei hwynebu ac fe all gael canlyniadau difrifol i’r farchnad dai a’r Ddinas yn Llundain, yn ôl llywodraethwr Banc Lloegr.

Wrth roi tystiolaeth i Aelodau Seneddol, dywedodd Mark Carney y byddai Brexit yn dechrau cyfnod o ansefydlogrwydd ariannol a allai barhau am “gyfnod hir iawn” ac fe rybuddiodd y byddai rhai cwmnïau yn symud eu pencadlys i wledydd tramor.

Wrth gael ei holi gan aelodau o bwyllgor dethol y Trysorlys, fe bwysleisiodd Mark Carney nad oedd y Banc yn gwneud unrhyw argymhelliad ynglŷn â sut dylai pobl bleidleisio yn y refferendwm ar 23 Mehefin.

Roedd hefyd yn gwadu bod Downing Street wedi pwyso arno i gyflwyno darlun llwm o’r canlyniadau posib yn sgil gadael yr UE.

Petai pleidlais o blaid gadael yr UE, dywedodd Mark Carney y byddai’r Banc yn gwneud “popeth yn ei allu i sicrhau sefydlogrwydd ariannol.”

Ond fe arweiniodd ei sylwadau at feirniadaeth lem gan yr AS Jacob Rees-Mogg, a oedd wedi cyhuddo Mark Carney o niweidio enw da’r Banc drwy wneud sylwadau “damcaniaethol” o blaid aros yn rhan o’r UE heb y ffeithiau i gefnogi ei safbwyntiau.