Yr actores o Fethesda, Gwenfair Vaughan
Cyn iddi berfformio mewn digwyddiad arbennig yn Efrog Newydd i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched, mae’r actores Gwenfair Vaughan wedi dweud wrth golwg360 bod ‘na heriau yn wynebu merched o hyd.
Mae’n bwysig cofio am frwydrau merched yn y gorffennol, yn ôl yr actores o Fethesda, sydd wedi byw yn Efrog Newydd ers dros 12 mlynedd, ond hefyd yn bwysig i godi ymwybyddiaeth o frwydrau sy’n parhau.
“Rydan ni wedi dod yn bell mewn gwledydd datblygedig fel Cymru, Prydain a’r Unol Daleithiau ond mae gynnon ni ffordd bell o hyd i fynd fel merched,” meddai.
“Mae anghydraddoldeb tâl yn y gweithle o hyd, ac mae’r gred yn parhau mewn rhai meysydd nad ydy merch yn gallu cynnal swydd oherwydd ei bod hi’n ferch.
“Ac mewn gwledydd llai cydradd, mae merched yn gorfod brwydro yn ddyddiol i gael tegwch i fyw yn iach a chael tegwch i gael unrhyw fath o gydnabyddiaeth ddynol.”
Rhan o’r sgwrs â Gwenfair Vaughan:
Trosi nofel Bethan Gwanas i’r Saesneg?
Bydd yn perfformio darn o nofel Gymraeg Bethan Gwanas, I Botany Bay, sy’n olrhain hanes gwir ferch ifanc o Ddolgellau a gafodd ei halltudio i Awstralia yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Penderfynodd Gwenfair Vaughan ar y nofel honno gan ei bod yn “dangos pa mor bell rydan ni wedi dod yng Nghymru ond hefyd y trallod oedd merched yn mynd trwyddo a’r anghydbwysedd diwylliannol a rhywiol.”
Byd yn perfformio’r gwaith yn Gymraeg ac yna’n Saesneg, gan ddefnyddio cyfieithiad Bethan Gwanas o’r darn hwnnw, ac yn ôl Gwenfair Vaughan, dylai’r awdur ei chyhoeddi yn Saesneg hefyd, gan ei bod yn “sefyll i fyny” yn y ddwy iaith.
Bydd yn un o 25 o artistiaid benywaidd a fydd yn perfformio darnau o waith o artistiaid benywaidd eraill ledled y byd, gan “ddangos bod ‘na ferched yn gweithio bob dydd ar draws y byd – yn awdura, yn dramodi ac yn ysgrifennu cerddoriaeth,” meddai.
Ac ar ddiwrnod fel heddiw, meddai, mae’n bwysig ein bod yn “clodfori llwyddiannau merched ond hefyd i godi ymwybyddiaeth o frwydrau merched sy’n parhau yn y byd.”
“Magu hyder” merched
Mae ateb y cwestiwn o sut i sicrhau cydraddoldeb llawn i ferched yn un hir a dyrys, meddai, ond dylid dechrau drwy “fagu hyder” merched.
“Rhaid i ni fel menywod gario ‘mlaen i fagu hyder yn beth sydd gennym ni i gynnig a bod beth sydd gennym ni i gynnig fel unigolion yn ddigon.
“Mae ‘na gymaint o bwysau arnom ni i gyd, yn enwedig y dyddiau yma, i edrych mor bert a delfrydol ag y gallwn ni, ac mae’r pwysau yna yn amlwg iawn ar ferched iau.
“Mae’r delweddau sy’n cael eu creu yn y cyfryngau (o ferched) yn cael eu haltro a’u ‘gwella’ i’r hyn maen nhw’n credu y dylai rhywun edrych yn ddelfrydol.”
Rhagfarn rhyw yn y byd actio
Ac mae’r “delweddau” hyn o sut ddylai merch edrych yn cael eu hamlygu’n aml yn y byd actio, yn ôl Gwenfair Vaughan, sy’n dweud bod disgwyliadau gwahanol i ferched a dynion.
“Yn gyffredinol, dydy’r disgwyliadau sydd o ferched (yn y byd actio) ddim yn gydradd, dydy o ddim yn gyfartal i’r disgwyliadau sydd yna i ddynion.
“Mae’n berffaith dderbyniol i ddyn gael gwallt sy’n britho ond dydy o ddim yn dderbyniol i actores gael gwallt felly. A phan mae gwallt dyn yn troi’n wyn, mae’n cael enw fel ‘silver fox’, ond dy’ch chi ddim yn gweld hynny i ferched.
“Mae’n hollol dderbyniol i ddynion gael crychau, ond dydy e ddim yn dderbyniol i ddynes wneud hynny, mae’n rhaid i ddynes edrych mor bert ag mae’n gallu.”
Mae’r agweddau hyn yn parhau i fod yn “annheg” ymhob maes, nid yn unig y byd actio, meddai, a bod heddiw yn gyfle i amlygu’r annhegwch hynny, gan uno merched ledled y byd yn y digwyddiad arbennig heno.