Bailey Gwynne
Mae llanc wedi’i gael yn euog o ladd disgybl ar ôl iddo ei drywanu yn ystod ffrae mewn ysgol yn Aberdeen.
Bu farw Bailey Gwynne, 16, ar ôl cael ei drywanu gyda chyllell yn ei frest yn Cults Academy yn Aberdeen ar 28 Hydref y llynedd.
Yn yr Uchel Lys, cafwyd y llanc 16 oed, na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol, yn euog o ladd ond fe ddyfarnodd y rheithgor yn erbyn cyhuddiad o lofruddiaeth.
Roedd y llanc wedi cyfaddef trywanu Bailey Gwynne ond wedi gwadu ei lofruddio, yn ystod yr achos a barodd am bum diwrnod.
Clywodd y llys bod Bailey Gwynne wedi cael ei drywanu yn ystod ffrae rhyngddo ef a’r llanc.
Roedd archwiliad post mortem yn dangos ei fod wedi cael ei drywanu yn ei galon a’i fod wedi colli llawer o waed. Cafodd yr anaf ei ddisgrifio fel un “hynod o beryglus”.
Roedd ’na olygfeydd emosiynol yn y llys wrth i’r dyfarniad gael ei gyhoeddi.
Dywedodd y Barnwr wrth y llys bod y digwyddiad fis Hydref y llynedd wedi dinistrio dau deulu.
Ychwanegodd y byddai’r llanc yn cael ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 1 Ebrill yn yr Uchel Lys yng Nghaeredin.