Winston Roddick
Ni fydd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru yn ymgeisio i gael ei ail-ethol am ei rôl yn yr etholiadau eleni.

Fe ddywedodd Winston Roddick mewn datganiad ei fod “am weld mwy o’i wyresau” ac mai hynny oedd y “prif reswm” dros adael y swydd.

Mae disgwyl i’w ddirprwy, Julian Sandham, geisio am y swydd.

Dywedodd y Comisiynydd fod y penderfyniad i gamu o’r neilltu wedi bod yn “anodd” a’i fod wedi digwydd “yn raddol dros y ddau neu dri mis diwethaf.”

Cafodd ei ethol ym mis Tachwedd 2012 – ar y pryd roedd yn aelod o’r Democratiaid Rhyddfrydol, ond roedd wedi sefyll fel ymgeisydd Annibynnol.

Parhau yn y byd cyfreithiol

Cadarnhaodd y bydd yn parhau i fod yn y byd cyfreithiol, gan gyflawni ei ddyletswyddau fel bargyfreithiwr.

“Rwyf yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth rwyf wedi ei gael gan fy nheulu a’r tîm talentog tu hwnt yn fy Swyddfa,” meddai.

Dywedodd mai un o’i gyflawniadau mwyaf oedd creu tîm troseddau gwledig, a arweiniodd at gwymp yn nifer y troseddau yng nghefn gwlad, sydd bellach yn cael ei gopïo ledled y DU ac Awstralia.

Os bydd Julian Sandham yn sefyll, mae disgwyl iddo wynebu ymgeisydd y blaid Lafur, David Taylor ac ymgeisydd Plaid Cymru, Arfon Jones, yn yr etholiad ym mis Mai.

Nid yw’r Ceidwadwyr Cymreig na’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dewis eu hymgeiswyr eto.

Mae cyfweliad gyda Winston Roddick yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg.