Fe fu 20 o weithwyr yn agored i lefel isel o ymbelydredd yng nghanolfan arfau niwclear Faslane yn yr Alban ar ôl i reolau diogelwch gael eu torri.
Roedd y gweithwyr wrthi’n atgyweirio tanc ar long danfor Trident pan ddaethant i gysylltiad â’r ymbelydredd ym mis Awst 2012.
Daeth y manylion o’r amlwg mewn dogfennau a gafodd y grŵp ymgyrchu Gwasanaeth Gwybodaeth Niwclear gan y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.
Mae’r adroddiad yn beio ‘cyfathrebu gwael’ a ‘diffyg dealltwriaeth o ddifrifoldeb y peryglon wrth weithio adweithydd’ fel ffactorau a gyfrannodd at yr ymbelydredd.
Wrth ymateb i’r adroddiad, meddai’r Aelod Seneddol Brendan O’Hara, llefarydd yr SNP ar amddiffyn:
“Unwaith eto, mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn cael ei chyhuddo o ddiofalwch gyda diogelwch ymbelydrol yn Faslane.
“Mae’n holl bwysig sicrhau diogelwch niwclear i aelodau’n lluoedd arfog, y contractwyr sy’n gweithio yno, yn ogystal â’r gymuned ehangach.
“Rhaid i’r Weinyddiaeth Amddiffyn ymchwilio ac esbonio pam fod y methiannau hyn yn digwydd a dweud yn union beth sy’n cael ei wneud i ddatrys y sefyllfa.”
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn na chafodd neb unrhyw niwed yn sgil yr ymbelydredd, a bod camau wedi eu cymryd i rwystro rhagor o ddigwyddiadau o’r fath.