Y Prif Weinidog David Cameron - wynebu anfodlonrwydd yn ei blaid ei hun (llun: PA)
Mae arolwg barn o gadeiryddion lleol y Blaid Geidwadol yn dangos fod bron hanner ohonyn nhw’n anfodlon gyda chytundeb David Cameron ar ddyfodol Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd.

O’r 128 a ymatebodd i’r arolwg, roedd 61 yn anfodlon o gymharu â 40 a oedd yn fodlon, a 23 a oedd heb benderfynu.

Roedd mwy ohonyn nhw hefyd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd nag o blaid aros – dywedodd 54 eu bod o blaid gadael a 31 o blaid aros.

Roedd 43 yn dal heb benderfynu.

Roedd y rhaglen Radio 4, The World This Weekend wedi cysylltu â chymdeithasau Torïaidd mewn 179 o etholaethau i gael syniad o farn aelodau ar lawr gwlad.