Mae dau ddyn, 66 ac 19 oed, wedi cael eu harestio ar ôl i injan dân gael ei dwyn a’i gyrru’n wyllt i res o geir a thai yng ngogledd Iwerddon.

Mae Glenarm Road yn Larne yn llawn llanast a dinistr ar ôl y digwyddiad tua 4.30 y bore yma. Cafodd y cerbyd ei dwyn o orsaf dân y dref lan môr yn Swydd Antrim.

Dywed yr heddlu fod un o’r dynion sydd yn y ddalfa wedi derbyn triniaeth ysbyty am anafiadau yn gynharach. Mae’r ddau yn cael eu holi ar hyn o bryd.